British Cycling has announced that they have confirmed a “landmark agreement” with the Welsh Government to host the next three Lloyds National Road Championships in Wales from 2025 through to 2027.
British Cycling has said this forms part of Wales’ commitment to hosting world-class cycling in the coming years, following on from last week’s announcement that the Tour de France and Tour de France Femmes avec Zwift will both take place in the UK in 2027.
The first of the hosts for the Lloyds National Road Championships will be Ceredigion, which will stage three days of racing with the time-trial on Thursday 26 June 2025, the circuit race on Friday 27 June 2025, and the road race concluding the action on Sunday 29 June 2025.
Wales has been a huge supporter of hosting major cycling events, so reaching this agreement with the Welsh Government is a huge milestone in securing host venues for the coveted National Road Championships for the next three years. The popularity of this event among riders and fans continues to grow, so it is fantastic to be working with partners in Wales where I am sure it will be a huge success.
We are pleased to be working with all our partners to deliver the 2025 Lloyds National Road Championships in June this year – Jonathan Day, Managing Director for British Cycling Events
Welsh Government Cabinet Secretary for Economy, Energy and Planning, Rebecca Evans, said,
“This landmark agreement is further excellent news for Wales, particularly Ceredigion this summer, and testament to our unique offering of world-class cycling terrain.
“With this exciting announcement following confirmation that the Tour de France will come to Wales for the very first time in 2027, it helps cement our position as a premier destination for elite cycling events and offers a chance to see British and Welsh riders who will go on to compete in Le Tour and Tour de France Femmes in 2027.
“I look forward to both riders and spectators being treated to the opportunity to discover the very best of Welsh cycling landscapes.”
Councillor Clive Davies, Cabinet Member for Economy and Regeneration at Ceredigion County Council, said,
“We are delighted that Ceredigion will be hosting the Lloyds National Road Cycling Championships this year. It will be an opportunity for us to showcase Ceredigion as a fantastic place for cyclists and for tourism, where you will experience fantastic scenery – our coastline, the countryside and mountains.
“Ceredigion has a proud record when it comes to producing elite cyclists, including Josh Tarling, Stevie Williams and Gruff Lewis, and we hope that hosting this event will inspire young cyclists who will be able to see their heroes in action.
“Hosting this event will provide significant economic benefits to the County, and we look forward to welcoming the Championships to Ceredigion.”
The release is also available in Welsh:
Mae British Cycling a Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cytundeb arwyddocaol i gynnal y tair Pencampwriaeth Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds nesaf o 2025 hyd at 2027.
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad Cymru i gynnal beicio o’r radd flaenaf yn y blynyddoedd i ddod, yn dilyn cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd y Tour de France a Tour de France Femmes avec Zwift yn cael eu cynnal yn y DU yn 2027.
Mae gan Gymru brofiad blaenorol o gynnal digwyddiadau beicio mawr gan ei bod wedi cynnal sawl cymal o’r Tour of Britain yn y blynyddoedd diwethaf.
Bydd Ceredigion – sir sydd wedi cynhyrchu beicwyr elitaidd fel Josh Tarling a Stevie Williams – yn croesawu’r beicwyr gorau gyda’r gobaith o ennill y crys pencampwr cenedlaethol.
Ceredigion fydd y cyntaf i gynnal Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds a fydd yn dechrau gyda thri diwrnod o rasio gyda’r prawf amser ddydd Iau 26 Mehefin 2025, y ras gylchdaith ddydd Gwener 27 Mehefin 2025, a’r ras ffordd yn cloi’r digwyddiad ddydd Sul 29 Mehefin 2025.
Dywedodd Jonathan Day, Rheolwr Gyfarwyddwr Digwyddiadau Beicio Prydain,
“Mae Cymru wedi bod yn gefnogwr mawr o ddigwyddiadau beicio mawr, felly mae cyrraedd y cytundeb hwn gyda Llywodraeth Cymru yn garreg filltir enfawr wrth sicrhau lleoliadau ar gyfer Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol am y tair blynedd nesaf. Mae poblogrwydd y digwyddiad hwn ymhlith beicwyr a chefnogwyr yn parhau i dyfu, felly mae’n wych gweithio gyda phartneriaid yng Nghymru lle rwy’n siŵr y bydd yn llwyddiant mawr.
“Rydym yn falch o weithio gyda’n holl bartneriaid i gyflwyno Pencampwriaethau Rasio Ffordd Genedlaethol Lloyds 2025 ym mis Mehefin eleni.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans,
“Mae’r cytundeb nodedig hwn yn newyddion ardderchog i Gymru, yn enwedig Ceredigion yr haf hwn, ac yn dyst i’n cynnig unigryw fel gwlad sydd â thirwedd beicio o’r radd flaenaf.
“Gyda’r cyhoeddiad cyffrous hwn yn dilyn cadarnhad y bydd y Tour de France yn dod i Gymru am y tro cyntaf yn 2027, mae’n cadarnhau ein safle fel prif gyrchfan ar gyfer digwyddiadau beicio elît. Bydd yn rhoi cyfle i ni weld beicwyr o Gymru a fydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn Le Tour a Tour de France Femmes yn 2027.
“Edrychaf ymlaen i feicwyr gorau’r byd a’r cefnogwyr sy’n diddori yn y gamp gael y cyfle i ddarganfod y gorau o dirwedd beicio Cymru.”
Meddai Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, Cyngor Sir Ceredigion,
“Rydym wrth ein boddau y bydd Ceredigion yn cynnal y Pencampwriaethau Beicio Cenedlaethol eleni. Bydd yn gyfle i ni arddangos Ceredigion fel lle gwych i feicwyr ac ar gyfer twristiaeth, lle byddwch yn profi golygfeydd gwych – ein harfordir, cefn gwlad a’r mynyddoedd.
Mae gan Geredigion hanes balch o ran cynhyrchu beicwyr elitaidd gan gynnwys Josh Tarling, Stevie Williams a Gruff Lewis ac rydym yn gobeithio y bydd cynnal y digwyddiad hwn yn ysbrydoli beicwyr ifanc a fydd yn gallu gweld eu harwyr ar waith.
Bydd cynnal y digwyddiad hwn yn darparu buddion economaidd sylweddol i’r Sir ac edrychwn ymlaen at groesawu’r Pencampwriaethau i Geredigion.”